Llandysul Primary School
Ysgol Gynradd Llandysul

Neges Bwysig

Neges BwysigDydd Iau 28 Ionawr 2010 [15:30]

Annwyl Rieni,

Mae'r Ysgol yn falch iawn i gyhoeddi ein bod ar fin cychwyn cyfnod treialu anfon negeseuon testun i rieni. Fe fydd hwn yn ddull effeithiol, diogel a dibynadwy o hysbysu rhieni ynghylch digwyddiadau, eich diweddaru ynghylch trefniadau yn ogystal a'ch hysbysu o faterion yn ymwneud yn benodol ag addysg eich plentyn.

Rydym wedi edrych ar sawl system posibl, ac wedi holi ysgolion ynghylch llwyddiant y math hwn o wasanaeth, ac mae'r ymateb yn bositif iawn .

Pwyslieisir bod y system hwn yn rhad ac AM DDIM ac yn gwbl ddiogel.

Dalier Sylw

Oni glywir yn wahanol gan rieni byddwn yn cychwyn treialu gan ddefnyddio'r rhifau symudol diweddaraf sydd wedi eu darparu gennych. Mae'n hanfodol eich bod yn hysbysu'r ysgol o unrhyw newidiadau i rifau ffon symudol gan na ellir gwarantu y bydd negeseuon yn eich cyrraedd os nad yw'r wybodaeth gywir gennym.

Llandysul Paddlers Canoe Club and Outdoor Education Centre
Llandysul Primary School, Heol Llynyfran Road, Llandysul, Ceredigion SA44 4HP 01559 362449
llandysul-school.co.uk
Sun 05 Sep 2010 13:25:20