Croeso
Croeso cynnes i wefan Ysgol Gynradd Llandysul.
Gobeithiaf y bydd ein gwefan yn ddiddorol ac o ddefnydd i chwi. Bwriad y wefan yw rhoi darlun o Ysgol Llandysul fel ysgol ac fel cymuned. Ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg sy'n darparu addysg ar gyfer plant rhwng 4 ac 11 oed yw hon, mae'n ysgol boblogaidd sy'n cael ei chydnabod fel ysgol dda yn academaidd ac yn gymdeithasol. Yn yr ysgol hon fe fydd plentyn yn hapus, ac o'u hanfon i Ysgol Gynradd Llandysul fe fydd rhieni yn gwybod fod eu plentyn yn ymuno â chymuned hapus a chadarn sy'n gofalu am addysg a lles pob un, ac y bydd eu plentyn yn derbyn cynhaliaeth ac anogaeth er mwyn cyrraedd penllanw personol.
Ein hamcan yn Ysgol Llandysul ydy creu byd diogel a hapus ac annwyl i bob plentyn sy'n ddisgybl yma. Ein gobaith ydi paratoi profiadau perthnasol a chofiadwy i'r plant fel y byddant yn mwynhau'r presennol ac, ar ur un pryd, y byddant yn datblygu'n bersonau cytbwys annibynnol, yn ddinasyddion caredig, cyfrifol. Mae'r ysgol yn anelu at ddatblygu ei darpariaeth addysgol yn barhaus, gan weithio fel tim – y disgyblion, y staff a'r rhieni.
Mae'r ysgol yn gweithredu polisi drws agored, i'r perwyl hwn mae croeso i chi alw draw i'n gweld yn yr ysgol unrhyw bryd.
|