Dyma gyfres o gwestiynau ac atebion a fydd, gobeithio, yn rhoi darlun cliriach i chi o amcanion y Cyfnod Sylfaen ar gyfer Cymru - y Wlad sy'n Dysgu.
Sut fydd fy mhlentyn yn dysgu?
Mae'r Cyfnod Sylfaen yn rhoi pwyslais mawr ar ddysgu trwy wneud. Dylai plant ifanc gael mwy o gyfleoedd i gael profiadau drostynt eu hunain trwy chwarae a chymryd rhan yn hytrach na thrwy wneud ymarferion mewn llyfrau.
Er enghraifft, dylai mathemateg fod yn fwy ymarferol fel y gall y plant weld sut y caiff problemau eu datrys a pha mor bwysig yw mathemateg yn eu bywydau bob dydd. Dylid rhoi mwy o bwyslais ar gael plant i ddeall sut y mae pethau'n gweithio ac ar ganfod gwahanol ffyrdd o ddatrys problemau.
Beth fydd fy mhlentyn yn ei ddysgu?
Mae cwricwlwm y Cyfnod Sylfaen yn adeiladu ar 'Canlyniadau Dymunol i Ddysgu Plant Cyn Oedran Addysg Orfodol' ac mae'n cynnwys agweddau ar raglenni astudio Cyfnod Allweddol 1 i ffurfio cwricwlwm newydd.
Datblygwyd y cwricwlwm newydd yn y lle cyntaf o dan y saith maes dysgu isod:
- Datblygiad Personol a Chymdeithasol a Lles
- Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu
- Datblygiad Mathemategol
- Dwyieithrwydd a Dealltwriaeth Amlddiwylliannol
- Gwybodaeth a Dealltwriaeth o'r Byd
- Datblygiad Corfforol
- Datblygiad Creadigol.
Mae'r Fframwaith diwygiedig ar gyfer Dysgu Plant, yr ymgynghorir arno rhwng 8 Ionawr a 30 Mawrth 2007, yn ystyried profiadau'r lleoliadau/ysgolion yn y peilot. O ganlyniad newidiwyd y saith maes dysgu i'r canlynol:
- Datblygiad Personol a Chymdeithasol a Lles
- Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu
- Datblygiad Mathemategol
- Dwyieithrwydd
- Gwybodaeth a Dealltwriaeth o'r Byd
- Datblygiad Corfforol
- Datblygiad Creadigol.
Mae'r Cyfnod Sylfaen yn rhoi pwyslais mawr ar ddatblygiad plant o ran eu:
- sgiliau a'u dealltwriaeth
- lles personol, cymdeithasol, emosiynol, corfforol a deallusol er mwyn datblygu'r plentyn cyfan
- agweddau cadarnhaol at ddysgu fel y gallant fwynhau dysgu ac y byddant yn dymuno parhau â'u haddysg am fwy o amser
- hunan-barch a'u hunan-hyder i arbrofi, ymchwilio, dysgu pethau newydd a meithrin perthnasoedd newydd
- sgiliau creadigol a mynegiannol a'u gallu i sylwi er mwyn annog eu datblygiad fel unigolion sydd â gwahanol ffyrdd o ymateb i brofiadau
- gweithgareddau yn yr awyr agored lle cânt brofiad drostyn eu hunain o ddatrys problemau go iawn mewn meysydd fel mathemateg, gwyddoniaeth a chelfyddyd a dysgu am gadwraeth a chynaliadwyedd.
A fydd fy mhlentyn yn dal i ddysgu darllen ac ysgrifennu?
Yn y Cyfnod Sylfaen, rhoddir pwyslais ar ddatblygu sgiliau plant i siarad a gwrando. Bydd hynny'n sylfaen gadarn ar gyfer datblygu darllen ac ysgrifennu.
Mae llawer o blant ifanc yn cychwyn ym myd addysg yn methu siarad am eu teimladau a'u profiadau. Nid yw'r plant hyn yn teimlo awydd i ddarllen ac ysgrifennu ac nid ydynt yn gweld gwerth y gweithgareddau hyn. Mae plant sy'n medru rhannu eu teimladau a siarad am eu profiadau yn fwy awyddus o lawer i gofnodi eu teimladau ac i ddarllen beth y mae pobl eraill wedi'i ysgrifennu. Felly, mae'n bwysig bod plant yn dysgu siarad am eu teimladau a gwrando ar eraill fel y byddant yn awyddus i ddatblygu sgiliau darllen ac ysgrifennu.
Os oes gan blant sgiliau siarad a gwrando da pan fyddant yn cychwyn ym myd addysg, bydd y staff yn eu hybu i symud ymlaen. Yr hyn sy'n bwysig yw bod plant yn cael profiadau sy'n ymateb i'w hanghenion ac yn eu helpu i ddysgu'n llwyddiannus.
Sut y caiff cynnydd fy mhlentyn ei asesu?
Dylid gwneud asesiad cychwynnol pan fydd plant yn cychwyn ym myd addysg i weld beth y gallant ei wneud a faint y maent yn ei ddeall. Bydd yr wybodaeth hon yn helpu i sicrhau bod profiad cyntaf pob plentyn o addysg yn cyfateb i'w anghenion a'i ddatblygiad ac y bydd y gweithgareddau a'r profiadau y bwriedir eu cynnig iddynt yn eu helpu i symud ymlaen i ddysgu. Bydd y staff yn asesu cynnydd y plant trwy gadw golwg arnynt yn eu gweithgareddau o ddydd i ddydd a defnyddio'r wybodaeth i gynllunio'r cam nesaf yn eu datblygiad.
Bydd y rhieni'n cael adroddiad bob blwyddyn ar gynnydd eu plentyn yn y saith maes dysgu. Hefyd, bydd asesiad athro statudol yn cael ei gynnwys yn adroddiad Blwyddyn 2.
Pam y mae lle y tu allan yn bwysig?
Mae'r Cyfnod Sylfaen yn rhoi pwyslais mawr ar gael y staff i ddefnyddio'r tu allan fel amgylchedd dysgu arall lle gall y plant weithio o ddydd i ddydd. Ceir llawer o resymau dros annog plant i ddefnyddio y tu allan, fel:
- mae rhedeg, neidio a sgipio y tu allan a defnyddio teganau ac offer na ellir eu defnyddio y tu mewn yn lles i iechyd a ffitrwydd plant
- gall y plant weld byd natur drostynt eu hunain - sut y mae'r tywydd yn newid a sut y mae planhigion ac anifeiliaid yn ymateb i'r gwahanol dymhorau
- gellir datrys problemau ymarferol
- gall y plant gael profiad ymarferol o bethau fel cadwraeth a chynaliadwyedd
- gallant ddod i garu natur a mwynhau gwneud pethau yn yr awyr agored.
Sut y bydd hyn yn effeithio ar y Cwricwlwm Cenedlaethol?
Ni fydd Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 1 yn bodoli fel y mae ar hyn o bryd. Caiff ei gyfuno â'r Blynyddoedd Cynnar i greu cyfnod newydd. Caiff y Canlyniadau Dymunol eu cyfuno â Chyfnod Allweddol 1 i ffurfio cwricwlwm statudol ar gyfer Cyfnod Sylfaen newydd plant 3-7 oed.
Beth os symudwn allan o Gymru?
Ar hyn o bryd, mae Cymru, Lloegr a'r Alban yn trefnu addysg plant ifanc mewn ffordd wahanol. Seilir y Cyfnod Sylfaen yng Nghymru ar arferion da yn y blynyddoedd cynnar a fydd yn rhoi sylfaen dda i blant ddysgu ble bynnag y maent yn byw.
Sut y mae effeithlonrwydd y Peilot yn cael ei werthuso?
Penodwyd tîm o ymchwilwyr uchel eu parch gan Llywodraeth Cynulliad Cymru i fonitro a gwerthuso'r gwaith o weithredu'r Cyfnod Sylfaen. Mae'r tîm yn cynnwys yr Athro Kathy Sylva a'r Athro Iram Siraj-Blatchford, sef prif ymchwilwyr prosiect EPPE, a Dr Janet Laugharne. Cyhoeddwyd yr Adroddiad Terfynol gan y Tîm Monitro a Gwerthuso ar 4 Rhagfyr 2006.
Beth ddysgwyd drwy werthuso'r Peilot? Cadarnhaodd yr Adroddiadau Monitro a Gwerthuso:
- bod gwahanol ddosbarthiadau o bobl, yn cynnwys staff a rhieni, yn frwd o blaid y Cyfnod Sylfaen
- bod y saith Maes Dysgu yn sylfaen eang a chytbwys ar gyfer addysg a datblygiad plant
- bod y pwyslais a roddir ar chwarae a dysgu gweithredol yn cael effaith gadarnhaol ar ddatblygiad ac addysg plant.
Rydym wedi dysgu hefyd bod angen i ni barhau:
- i gynnig canllawiau ar y saith maes dysgu yng nghwricwlwm y Cyfnod Sylfaen ac ar ddysgu ac addysgu
- i gefnogi staff trwy hyfforddiant a gynllunnir yn dda
- i wella rheolaeth ac adnoddau
- i hysbysu'r holl randdeiliaid o ddatblygiadau.
Caiff y gwersi hyn eu hadlerwyrchu ynghyd â gweithgareddau eraill, a disgrifir mecanweithiau cefnogi yn nogfen Llywodraeth Cynulliad Cymru 'Adeiladu'r Cyfnod Sylfaen - y Cynllun Gweithredu'.
Sut y cyflwynir dwyieithrwydd yn y Cyfnod Sylfaen?
Bydd ysgolion Cymraeg yn dal i ddefnyddio'r strategaeth drochi i ddatblygu sgiliau Cymraeg y plant ond, yn y Cyfnod Sylfaen, bydd yn ofynnol i ysgolion Saesneg gynnig rhagor o gyfleoedd i blant ddysgu Cymraeg a mwynhau defnyddio'r iaith trwy sicrhau bod gweithgareddau chwarae addas ar gael iddynt trwy gyfrwng y Gymraeg bob dydd.
Bydd yr holl staff sy'n gweithio gyda phlant ifanc yn cael hyfforddiant ychwanegol i'w paratoi ar gyfer cyflwyno'r Cyfnod Sylfaen. Cynghorwyd ymarferwyr i gychwyn â'r sgiliau a'r wybodaeth sydd ganddynt eisoes ac i gynnig mwy o gyfleoedd i blant gymryd rhan mewn gweithgareddau Cymraeg wrth iddynt hwythau fagu hyder yn yr iaith.
Pa ddefnyddiau sydd ar gael eisoes ar gyfer y Cyfnod Sylfaen?
Bydd y defnyddiau isod yn rhoi rhagor o wybodaeth a chefndir i chi ar y Cyfnod Sylfaen a chynlluniau Llywodraeth Cynulliad Cymru i'w gyflwyno. Ymhlith y defnyddiau mae Datganiadau i'r Wasg gan Jane Davidson; y papur ymgynghori gwreiddiol a chrynodeb o'r ymatebion a gafwyd; adroddiad monitro a gwerthuso blwyddyn gyntaf y Peilot; fersiwn ddrafft y Fframwaith ar gyfer Dysgu Plant; a'r canllawiau sy'n cael eu treialu yn yr ysgolion a'r lleoliadau Peilot.