Llandysul Primary School
Ysgol Gynradd Llandysul

Mathemateg, beth fydd fy mhlentyn yn ei ddysgu?

Dosbarth Derbyn
  • Dweud a defnyddio enwau'r rhifau mewn trefn mewn cyd-destunnau cyfarwydd.
  • Cyfrif gwrthrychau cyffredin yn ddibynadwy hyd at 10
  • Adnabod rhifolion 1 i 9.
  • Defnyddio iaith megis mwy neu lai, trymach neu ysgafnach, i gymharu dau rif neu faint.
  • Mewn gweithgareddau ymarferol a thrafodaethau, dechrau defnyddio geirfa'n ymwneud ag adio a thynnu.
  • Darganfod un yn fwy neu un yn llai na rhif o 1 i 10.
  • Dechrau perthnasu adio â chyfuno dau grwp o wrthrychau, a thynnu â 'tynnu i ffwrdd'
  • Trafod, adnabod ac ailgreu patrymau syml.
  • Defnyddio iaith megis cylch neu mwy i ddisgrifio siâp a maint solidau a siapiau fflat.
  • Defnyddio iath bob ddydd i ddisgrifio safle.
  • Defnyddio syniadau a dulliau mathemategol datblygol i ddatrys problemau ymarferol.


Blwyddyn 1

  • Cyfrif o leiaf 20 gwrthrych yn ddibynadwy
  • Cyfrif ymlaen ac yn ôl fesul un gan ddechrau ag unrhyw rif bach, ac mewn degau o sero ymlaen ac yn ôl i sero.
  • Darllen, ysgrifennu a threfnu rhifau o 0 hyd at o leiaf 20; deall a defnyddio geirfa cymharu a threfnu'r rhifau hyn.
  • O fewn yr amrediad 0 i 30, dweud y rhif sydd 1 neu 10 yn fwy neu'n llai nag unrhyw rif penodol.
  • Deall y weithred o adio, ac o dynnu (fel 'tynnu i ffwrdd' neu 'gwahaniaeth') a defnyddio'r eirfa gysylltiedig.
  • Gwybod ar y cof bob pâr o rifau sydd â chyfanswm o 10.
  • Defnyddio strategaethau pen i ddatrys problemau syml gan ddefnyddio cyfrif, adio, tynnu, dyblu a haneru, egluro dulliau a rhesymu ar lafar.
  • Cymharu dau hyd, màs neu gynhwysedd drwy gymharu'n uniongyrchol.
  • Awgrymu offer ac unedau mesur safonol neu ansafonol i amcangyfrif, ac yna mesur, hyd, màs neu gynhwysedd.
  • Defnyddio iaith bob dydd i ddisgrifio nodweddion siapiau 2-D a 3-D cyfarwydd.

Blwyddyn 2

  • Cyfri, darllen, ysgrifennu a threfnu rhifau cyfain hyd at o leiaf 100; gwybod beth mae pob digid yn ei gynrychioli (gan gynnwys 0 mewn gwerth lle)
  • Disgrifio ac ymestyn dilynianau rhif symyl (gan gynnwys odrifau/eilrifau, cyfri ymlaen neu'n ôl fesul un neu ddegau o unrhyw rif dau ddigid, ac yn y blaen).
  • Deall fod tynnu yn wrthdro i adio; nodi y broses dynnu sy'n cyfateb i sym adio arbennig ynghyd a'r gwrthdro.
  • Gwybod ar y cof yr holl ffeithiau adio a thynnu ar gyfer pob rhif hyd at o leiaf 10.
  • Defnyddio gwybodaeth y gellir adio mewn unrhyw drefn i wneud cyfrifiadau yn y pen yn fwy effeithlon.
  • Deall y broses o luosi fel adio wedi ei ailadrodd neu'n disgrifio 'array'
  • Gwybod a defnyddio haneru fel y gwrthdro i ddyblu.
  • Gwybod ar y cof ffeithiau ar gyfer tablau lluosi 2 a 10.
  • Amcangyfrif, mesur a chymharu hydoedd, mas a chynhwysedd, gan ddefnyddio unedau safonol.; awgrymu unedau ac offer addas i wneud mesuriadau o'r ffath.
  • Darllen graddfa symyl I'r rhaniad agosaf a labelwyd, gan gynnwys defnyddio pren mesur I lunio a mesur llinellau I'r centimetr agosaf.
  • Defnyddio'r enwau mathemategol ar gyfer siapiau 2-D a 3-D cyffredin; dosbarthu siapiau a disgrifio rhai o'u nodweddion.
  • Defnyddio geirfa fathemategol I ddisgrifio safle, cyfeiriad a symudiad.
  • Dewis a defnyddio dulliau addas a strategaethau cyfrifo effeithlon I ddatrys problemau, gan egluro sut y datryswyd y broblem.

Blwyddyn 3

  • Darllen, ysgrifennu a threfnu rhifau cyfain hyd at o leiaf 1000; gwybod beth mae pob digid yn ei gynrychioli.
  • Cyfri ymlaen neu'n ôl mewn degau neu gannoedd o unrhyw rif dau– neu dri- digid.
  • Adnabod ffracsiynau uned megis ½, 1/3, ¼, 1/5, 1/10, a'u defnyddio i ganfod ffracsiynau o siapiau a rhifau.
  • Gwybod ar y cof yr holl ffeithiau adio a thynnu ar gyfer pob rhif hyd at 20.
  • Adio a thynnu yn y pen 'lluosri agos i 10' i neu o rif dau-ddigid.
  • Gwybod ar y cof ffeithiau tablau lluosi 2, 5 a 10.
  • Deall rhannu ac adnabod bod rhannu yn wrthdro I luosi.
  • Defnyddio unedau amser a gwybod y berthynas rhyngddynt (eiliad, munud, awr, diwrnod, wythnos, mis, blwyddyn).
  • Deall a defnyddio nodiant £.c
  • Dewis a defnyddio dulliau priodol (gan gynnwys lluosi a rhannu) i ddatrys problemau a fynegir mewn geiriau, gan egluro dulliau a rhesymu.
  • Adnabod onglau sgwar.
  • Adnabod llinellau cymesuredd mewn siapiau symyl ac adnabod siapiau sydd heb linellau cymesuredd.
  • Datrys problem arbennig drwy drefnu a dehongli data rhifyddol mewn rhestrau, tablau a graffiau symyl.

Blwyddyn 4

  • Defnyddio symbolau yn gywir, gan gynnwys llai na (<), mwy na (>), hafal i (=).
  • Talgrynnu unrhyw rif cyfan llai na 1000 I'r 10 neu 100 agosaf.
  • Adnabod ffracsiynau syml sy'n amryw ran o un cyfan, a rhifau cymysg; adnabod ffracsiynau cyfwerth syml.
  • Defnyddio ffeithiau rhif sy'n wybyddus a gwerth lle i adio a thynnu yn y pen, gan gynnwys unrhyw bar o rifau cyfan dau-ddigid.
  • Cwblhau proses adio a thynnu colofn gyda dau rif cyfan llai na 1000, ynghyd ag adio colofn o fwy na dau rif cyfan o'r math hwn.
  • Gwybod ar y cof ffeithiau tablau lluosi 2, 3, 4, 5 a 10
  • Canfod gweddill ar ôl rhannu.
  • Gwybod a defnyddio perthynas rhwng unedau cyfarwydd o hyd, mas a chynhwysedd.
  • Dosbarthu polygonau, gan ddefnyddio meini prawf megis nifer o onglau sgwar, ydynt yn rheolaidd a'i peidio, nodweddion cymesuredd.
  • Dewis a defnyddio gweithrediad rhif addas ynghyd â dulliau cyfrifo (yn y pen, yn y pen gyda gwaith bras ar bapur, dull papur a phensil) er mwyn datrys problemau.

Blwyddyn 5

  • Lluosi a rhannu unrhyw gyfanrif positif hyd at 10 000 gyda 10 neu 100 a deall yr effaith.
  • Trefnu set o gyfanrifau positif a negatif
  • Defnyddio nodiant degol ar gyfer degfedi a chanfedi.
  • Talgrynnu rhif gydag un neu ddau werth lle I'r cyfanrif agosaf.
  • Perthnasu ffracsiynau i rannu a'u cynrychioliad degol.
  • Cyfrifo'n y pen wahaniaeth megis 8006 – 2993
  • Cwblhau proses adio a thynnu colofn gyda dau gyfanrif positif llai na 10 000.
  • Gwybod ar y cof ffeithiau lluosi hyd at 10 x 10.
  • Cwblhau proses luosi a rhannu byr o gyfanrifau tri-digid ag un un-digid.
  • Cwblhau proses luosi hir o gyfanrifau dau-ddigid gyda dau-ddigid.
  • Deall arwynebedd wedi ei fesur mewn centimetrau sgwar (cm²); deall a defnyddio y fformwla mewn geiriau 'hyd x lled' ar gyfer cyfrifo arwynebedd petryal.
  • Adnabod llinellau paralel a pherpendiciwlar, a nodweddion petryalau.
  • Defnyddio'r bedair gweithred i ddatrys problemau symyl a fynegir mewn geiriau yn ymwneud a rhifau a meintiau., gan gynnwys amser, gan egluro eu dulliau a'u rhesymu.

Blwyddyn 6

  • Lluosi a rhannu degolion yn y pen gyda 10 neu 100, a chyfanrifau gyda 1000, ac egluro'r effaith
  • Trefnu set gymysg o rifau gydag hyd at dri lle degol.
  • Nodi ffracsiwn yn ei ffurf symlaf drwy ganslo ffactorau cyffredin.
  • Darganfod ffracsiwn o rifau neu feintiau (e.e. 5/8 o 32, 7/10 o 40, 9/100 o 400centimetr).
  • Deall canran fel y nifer o rannau ym mhob 100, a canfod canranau symyl o feintiau sy'n rifau cyfain bach.
  • Datrys problemau syml yn ymwneud â cymhareb a cyfranedd.
  • Cwblhau proses adio a thynnu colofn gyda rhifau'n cynnwys degolion.
  • Didwytho'n gyflym ffeithiau rhannu sy'n cyfateb i dablau lluosi hyd at 10 x 10.
  • Cwblhau proses luosi a rhannu byr o rifau yn cynnwys degolion.
  • Cwblhau proses luosi hir o gyfanrif tri-digid gydag un dau-ddigid.
  • Defnyddio onglydd i fesur ongl lem ac aflem i'r radd agosaf.
  • Cyfrifo perimedr ac arwynebedd siapiau cyfansawdd symyl y gellir eu rhannu'n betryalau.
  • Darllen a phlotio cyfesurynnau yn y pedwar cwadrant.
  • Adnabod a defnyddio y gweithrediad addas (gan gynnwys cyfuniad o weithrediadau) i ddatrys problemau a fynegir mewn geiriau, yn ymwneud â rhifau a meintiau, gan egluro eu dulliau a'u rhesymu.
  • Datrys problem drwy echdynnu a dehongli gwybodaeth a gyflwynir mewn tablau, graffiau a siartiau.
Llandysul Paddlers Canoe Club and Outdoor Education Centre
Llandysul Primary School, Heol Llynyfran Road, Llandysul, Ceredigion SA44 4HP 01559 362449
llandysul-school.co.uk
Thu 09 Sep 2010 21:16:29