Llandysul Primary School
Ysgol Gynradd Llandysul

(YSGOL GYFAN) Gorolwg o'r Cwricwlwm(YSGOL GYFAN) Gorolwg o'r Cwricwlwm

Cynradd (3-11)

Mae'r adran hon yn darparu gorolwg ar y cwricwlwm a'i drefniadau asesu ar gyfer plant rhwng 3-11 oed yng Nghymru.

Yng Nghymru, mae addysg statudol yn dechrau y tymor ar ôl penblwydd plentyn yn bump oed, er bod llawer o blant yn dechrau'n gynt na hyn.

Rhennir addysg plant rhwng 3-11 oed yn dri prif gyfnod y cyfeirir atyn nhw fel:

  • Blynyddoedd Cynnar - cyfnod cyn dechrau addysg orfodol (rhwng 3-5 oed)
  • Cyfnod Allweddol 1 - cyfnod cyntaf addysg gynradd orfodol (rhwng 5-7 oed)
  • Cyfnod Allweddol 2 - ail gyfnod addysg gynradd orfodol (rhwng 7-11 oed).

Blynyddoedd cynnar
Mae'r term 'Blynyddoedd cynnar' yn ymdrin â'r cyfnod cyn addysg gynradd orfodol, pan fo plant rhwng 3-5 oed.

Mae athrawon ysgolion meithrin, arweinwyr grwpiau chwarae ac eraill sy'n ymwneud â Blynyddoedd Cynnar yn cynllunio'u gweithgareddau i gyd-fynd â dysgu mewn chwe maes allweddol. Nodir pa rai ydyn nhw a cheir esboniad arnyn nhw yn y llyfryn 'Canlyniadau Dymunol i Ddysgu Plant Cyn Oedran Addysg Orfodol'.

Y cwricwlwm ysgol
Mae'n ofynnol i ysgolion Cymru, yn ôl y gyfraith, addysgu'r cwricwlwm sylfaenol a'r Cwricwlwm Cenedlaethol. Rhennir chwe blynedd y cyfnod cynradd yn ddau gyfnod allweddol. Mae Cyfnod Allweddol 1 yn ymwneud â'r ddwy flynedd rhwng 5-7 oed a Chyfnod Allweddol 2 â'r pedair blynedd o 7-11 oed.

Mae'r cwricwlwm sylfaenol yn cynnwys addysg grefyddol (AGr) ac addysg bersonol a chymdeithasol (ABCh). Hefyd, mae'n ofynnol i ysgolion cynradd feddu ar bolisi addysg rhyw.

Yng Nghyfnodau Allweddol 1 a 2 cynhwysir y canlynol:

  • pynciau craidd - Saesneg*, Cymraeg, mathemateg a gwyddoniaeth
  • pynciau allgraidd - Cymraeg ail iaith, dylunio a thechnoleg, technoleg gwybodaeth, hanes, daearyddiaeth, celf, cerddoriaeth, addysg gorfforol ac addysg grefyddol.

*Nid oes gofyniad statudol i addysgu Saesneg yng Nghyfnod Allweddol 1 mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg.

Asesu
Asesir plant yn statudol wrth iddyn nhw ddechrau yn y Dosbarth Derbyn neu Flwyddyn 1 er mwyn sefydlu eu man cychwyn a cheir asesiadau statudol pellach ar ddiwedd Cyfnodau Allweddol 1 a 2.

Yng Nghyfnod Allweddol 1, asesir disgyblion ym mhynciau craidd y Cwricwlwm Cenedlaethol gan eu hathrawon.

Yng Nghyfnod Allweddol 2, mae'r profion a'r tasgau yn ddewisol ers 2005. Ceir asesiad athrawon statudol yn y pynciau craidd.
 
Gwybodaeth gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru
 
Llandysul Paddlers Canoe Club and Outdoor Education Centre
Llandysul Primary School, Heol Llynyfran Road, Llandysul, Ceredigion SA44 4HP 01559 362449
llandysul-school.co.uk
Thu 09 Sep 2010 20:25:13