Gweithredu diwydiannol a threfniadau diwedd tymor
Gweithredu Diwydiannol
Ysgrifennaf atoch i'ch hysbysu y bydd yn rhaid cau'r ysgol ar 16.7.08 a 17.7.08 oherwydd gweithredu diwydiannol gan undeb UNSAIN. Ni fydd yr ysgol chwaith yn gallu darparu gofal yn Clwb ar ôl 3 ar y dyddiadau hynny.
Arian Cinio
Fe fydd pris arian cinio yn codi i £1.75 o fis Medi 2008
Diwrnod Hwyl ur Urdd (9.7.08)
Mae'r achlysur uchod wedi ei ganslo am eleni. Rydym yn parhau i ofyn i'r plant ddod a brechdannau i'r ysgol yfory
Diwedd Tymor
Caraf eich atgoffa y bydd yr ysgol yn cau am 1.30yh ar brynhawn Gwener, 18.7.08. Fe fydd yr ysgol yn ail agor i blant ar ddydd Mercher, Medi'r 3ydd.
|