Llandysul Primary School
Ysgol Gynradd Llandysul

Gwyliau teuluol yn ystod tymor ysgol

Gwybodaeth wedi ei ddarparu gan Gyngor Sir Ceredigion

Fel arfer, ni ddylai rhieni/gwarcheidwaid gymryd disgyblion ar wyliau adeg tymor, a pholisi Awdurdod Addysg Lleol Ceredigion yw eu hannog i beidio â gwneud hyn. Yn ôl Rheoliadau Presenoldeb Ysgol (Cofrestru Disgyblion) 1995, mae gan ysgolion hawl ddewisol i ganiatáu gwyliau teuluol blynyddol adeg tymor, ar yr amod fod yna amgylchiadau arbennig ar gyfer y cais, a bod y cais wedi'i gyflwyno ymlaen llaw gan y rhiant/gwarcheidwad sy'n preswylio gyda'r plentyn fel arfer. Dim ond y pennaeth all ganiatáu'r absenoldeb hon ond peidiwch â disgwyl i'r pennaeth dderbyn eich cais yn otomatig. Hefyd, nodwch mai dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y gellir caniatáu absenoldeb o fwy na 10 niwrnod ysgol o fewn unrhyw flwyddyn ysgol.

Bydd y pennaeth yn ystyried pob cais am absenoldeb gwyliau yn ofalus iawn gan gymryd i ystyriaeth oedran y disgybl, amseru'r gwyliau a hanes presenoldeb y disgybl. Yna, gwneir penderfyniad a ddylid rhoi caniatâd neu beidio. Os cymer y rhieni eu plentyn i ffwrdd ar wyliau heb ganiatâd cytunedig y pennaeth, yna bydd yr absenoldebau hyn yn rhai anawdurdodedig a chânt eu hadrodd yn ôl i'r Awdurdod Addysg Lleol.

Cyfarwyddwr Addysg

Llandysul Paddlers Canoe Club and Outdoor Education Centre
Llandysul Primary School, Heol Llynyfran Road, Llandysul, Ceredigion SA44 4HP 01559 362449
llandysul-school.co.uk
Wed 08 Sep 2010 13:14:13