Llandysul Primary School
Ysgol Gynradd Llandysul

Canllawiau Presenoldeb a Phrydlondeb i Bob Rhiant

Polisi Presenoldeb a Phrydlondeb  

Mae presenoldeb rheolaidd yn allweddol os yw plentyn am fanteisio i'r eithaf ar eu cyfnod yn yr ysgol. Mae'r ysgol yn pwysleisio bod presenoldeb rheolaidd yn holl-bwysig er mwyn sicrhau datblygiad addysgol a chymdeithasol y plentyn.

Mae'r mwyafrif o rieni a gwarchodwyr yn awyddus i sicrhau y caiff eu plentyn bob cyfle posibl i ddatblygu i'r eithaf, ac yn awyddus i'w plentyn dderbyn addysg o'r safon uchaf. Mae absenoldebau cyson yn golygu nad oes dilyniant yn y broses ddysgu ac felly yn arwain at dangyflawni. Nid oes modd gwneud yn iawn am amser sydd wedi ei golli yn y dosbarth; y profiad dysgu a'r profiad cymdeithasol - gall hyn arwain at broblemau sefydlu perthynas gyda chyd-ddisgyblion neu gyda staff o fewn yr ysgol. Yn aml nid yw plentyn sydd yn absennol neu'n hwyr yn rheolaidd yn teimlo'n gysurus yn yr ysgol.

Nid yw plentyn yn mwynhau'r profiad o orfod cyrraedd ysgol yn hwyr a cherdded i mewn i'r dosbarth neu'r neuadd ar ōl pob un arall.

 

Canllawiau Rhieni  

Fe fydd y gloch yn canu am 9am, disgwylir i bob plentyn fod ar dir yr ysgol erbyn hynny.

 

Plentyn yn Sāl

  1. Disgwylir i rieni roi eglurhad cyn 9.15am ar y diwrnod cyntaf y bydd eich plentyn yn absennol. Oni fyddwn yn derbyn galwad ffōn neu weld y rhiant yna fe nodir fod eich plentyn yn absennol heb ganiatād.

  2. Gofynnir i chi anfon nodyn o eglurhad ar y diwrnod y bydd eich plentyn yn dychwelyd i'r ysgol.

  3. Os bydd absenoldebau rheolaidd yn sgil salwch yna fe fydd yr ysgol yn cyfeirio'r mater i sylw'r Adran Iechyd

 

Absenoldeb ā Chaniatād

(apwyntiadau doctor/deintydd)

  1. Dylid gwneud cais (Trwy ddefnyddio ffurflen bwrpasol sydd ar gael yn yr ysgol) er mwyn i'ch plentyn dderbyn caniatād i fod yn absennol o'r ysgol am unrhyw reswm.
  2. Gofynnir i rieni ymdrechu i drefnu apwyntiadau doctor etc. y tu allan i oriau'r ysgol

  3. Gofynnir i chi hysbysu'r ysgol mor fuan ā phosib cyn yr absenoldeb.
  1. Ysgolion yn unig all roi caniatād i ddisgyblion fod yn absennol - nid rhieni.

 

Prydlondeb

 

  1. Mae'r cyfnod cofrestru yn cychwyn am 9am
  2. Cedwir cofnod o bob plentyn fydd yn cyrraedd yn hwyr i'r ysgol. (ar ōl cychwyn cyfnod cofrestru) Os bydd y patrwm hwn yn parhau yna fe gymerir camau pellach gan yr ysgol.
  3. Os bydd eich plentyn yn cyrraedd ar ōl 9.15am, heb eglurhad boddhaol yna fe'u nodir yn absennol heb ganiatād.
  4. Os yw disgyblion yn cyrraedd cyn 8.45am bydd angen iddynt gofrestru fel aelod o'r clwb brecwast gan na fydd goruchwyliaeth are eu cyfer ar yr iard tan 8.45am. Nid oes rhaid i'r plant gael brecwast ond er mwyn sicrhau diogelwch eich plant o dan oruchwyliaeth staff bydd angen i chi lenwi'r ffurflen briodol sydd ar gael o'r ysgol.
  5. Mae'r ysgol yn cau am 3.20pm. Gofynnir i rieni gasglu eu plentyn yn brydlon. Y mae darpariaeth gofal plant ar ōl ysgol yn 'Clwb ar ōl 3'. Nid yw'n dderbyniol i adael y plant yng ngofal yr ysgol ar derfyn dydd.

 

Absenoldebau heb ganiatād

Plentyn yn parhau i fod yn hwyr

 

Mae systemau'r Ysgol / Awdurdod Addysg ynghylch ymdrin ag absenoldebau wedi eu nodi isod.

 

  1. Os cyfyd sefyllfa o bresenoldeb neu brydlondeb annerbyniol (fel arfer presenoldeb dan 90% )yna fe anfonnir llythyr i'r cartef.
  2. Os nad oes gwelliant dros gyfnod o 4 wythnos yna fe anfonnir ail lythyr a gwahoddir y rhieni i fynychu cyfarfod yn yr ysgol
  3. Os nad oes gwelliant wedi 4 wythnos arall yna fe drosglwyddir y mater i'r Awdurdod Addysg, ac fe fydd y swyddogion cynhwysiant yn gweithio gyda'r rhieni i geisio gwella'r sefyllfa.
  4. Mae modd i'r Awdurdod Addysg gymryd camau cyfreithiol pellach yn ōl difrifoldeb y sefyllfa.

Gwyliau Ysgol

Nodwch nad oes gan rieni neu warcheidwaid yr hawl otomatig i fynd ā disgyblion am wyliau yn ystod tymor.

 

Caiff pob cais am absenoldeb gwyliau ei ystyried yn unigol gan y Pennaeth ymlaen llaw.

Bydd y Pennaeth yn ystyried:

v Oedran y plentyn

v Patrwm presenoldeb a phrydlondeb y plentyn

v Amseriad yr absenoldeb

Strategaeth Ysgol

Fe fydd yr ygsol yn adolygu'r canrannau presenoldeb bob hanner tymor. Yn unol ā chanllawiau sirol byddwn yn hysbysu rhieni ble mae presenoldeb eu plentyn wedi disgyn o dan 90% (gan gynnwys absenoldebau wedi eu hawdurdodi).

Adolygir y canrannau hyn gan gyfathrebu ymhellach gyda rhieni a'r AALl yn ōl yr angen.

Llandysul Paddlers Canoe Club and Outdoor Education Centre
Llandysul Primary School, Heol Llynyfran Road, Llandysul, Ceredigion SA44 4HP 01559 362449
llandysul-school.co.uk
Wed 08 Sep 2010 12:58:40